Fy Iechyd Ar-lein

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Oni fyddai’n beth da pe gallech archebu eich meddyginiaeth reolaidd yn uniongyrchol o gysur eich cartref eich hun? 

Os felly, dyma i chi newyddion da! Gallwch nawr ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein i archebu eich meddyginiaeth reolaidd, a threfnu, newid neu ganslo apwyntiadau gyda’ch meddyg teulu neu nyrs.

Bydd angen i chi gofrestru yn y practis i gael mynediad ar-lein i Fy Iechyd Ar-lein. Gofynnwch am becyn cais trwy ein ffurflen ddiogel ar-lein a’i e-bostio yn ôl i’r practis. Fel rhan o’r broses gofrestru gofynnir i chi brofi pwy ydych. Mae hwn yn un o’r mesurau sydd ar waith i ddiogelu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.  Mae manylion llawn am y broses ar gael o’r dderbynfa.

Rydym yn darparu’r wefan hon mewn cydweithrediad â GIG Cymru a’n cyflenwyr systemau TG meddygon teulu.

 

Gwasanaethau sydd Ar Gael i Gleifion

Mae’r Gwasanaethau canlynol ar gael i bob claf cofrestredig.