Gwasanaethau Lleol

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau lleol (isod) sydd yn cael ei diweddaru’n gyson, felly os ydych yn teimlo bod unrhyw beth y dylem ei ychwanegu, rhowch wybod i ni:

 

Rhaglen Brechu rhag Covid

Cliciwch yma i fynd i wefan BIPBC a dod o hyd i wybodaeth am Raglen Brechu Gogledd Cymru rhag COVID-19, gan gynnwys atebion i Gwestiynau Cyffredin a sut i roi gwybod iddynt os oes angen apwyntiad newydd neu apwyntiad cyntaf arnoch.

 

Bywyd Actif

Cliciwch yma i gael mynediad i gyrsiau fideo ar-lein sy'n rhannu ffyrdd ymarferol o ymdopi â meddyliau a theimladau sy'n achosi trallod.

 

Trechu Anhwylderau Bwyta

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Beat.  Mae gan Beat llinell gymorth a gwybodaeth i oedolion a phobl ifanc, ac maent yn cynnig amgylchedd cefnogol i siarad am anhwylderau bwyta a ffyrdd i gael cymorth. Ffoniwch 0808 8010677 neu cliciwch uchod.

 

Sgrinio'r Fron y GIG

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am sgrinio'r fron neu ffoniwch: 01492 860888.

 

Llinell Wrando A Chymorth Cymunedol

Cliciwch yma i gael mynediad i wefan y Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol  sydd yn cynnig llinell wrando a chymorth cyfrinachol 24/7 ar gyfer iechyd meddwl. Ffoniwch 0800132737, tecstiwch “help” i 81066.

 

Dementia Go

Cliciwch yma i ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd Dementia Actif Gwynedd. Mae dosbarthiadau yn agored i bob aelod o'r cyhoedd os ydynt yn cofrestru drwy'r ddolen hon.

 

Prosiect Cyfeillion Gohebol

A dyma rywbeth newydd sydd ddim yn ddigidol! – Prosiect Cyfeillion Gohebol: Ydych chi’n mwynhau ysgrifennu? Hoffech chi gysylltu â pherson ifanc er mwyn i chi allu rhannu straeon a diddordebau? Neu efallai yr hoffech chi dderbyn llythyr? Mae hynny'n iawn hefyd. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 07768 988095.

 

Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru 

Cliciwch yma am gyngor a chymorth i bobl â gwaed heintiedig

 

My Desmond

Addysg a chymorth digidol ar gyfer diabetes Math 2. Rhaglen hunanreoli ryngweithiol ar-lein ar gyfer pobl â diabetes math 2.

Ar mydesmond rydych chi’n gallu:

  • Gofyn i'r Arbenigwr – lle bydd tîm amlddisgyblaethol Canolfan Diabetes Caerlŷr ar gael i chi
  • Tracio eich lefelau gweithgaredd a hyd yn oed cysylltu â Fitbit neu Google Fit
  • Tracio’ch pwysau, pwysedd gwaed, HbA1c, deiet a cholesterol
  • Gosod nodau dyddiol sy'n cyd-fynd â'ch ffordd o fyw
  • Cystadlu ag eraill yn ein cymuned DESMOND wth gadw sgôr ar dabl sgorio byd-eang
  • Sgwrsio ag aelodau o gymuned DESMOND
  • Gwahodd eich ffrindiau a'ch teulu i ymuno â chi ar eich taith
  • Dysgu mwy am ddiabetes math 2 trwy ein sesiynau dysgu rhyngweithiol a sesiynau diweddaru 9 wythnos

Os ydych yn byw yng Nghymru a bod gennych ddiabetes math 2 ewch i wefan MyDesmond i ofyn am fynediad drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.

 

Llinell Gymorth Ddeintyddol Rhad ac Am Ddim

Cliciwch yma neu ffoniwch 0845 4647 am linell gymorth a gwybodaeth y tu allan i oriau'r GIG. Ni allwn ddarparu triniaeth ddeintyddol na chyngor yng Nghanolfan Iechyd Tywyn.

 

Chwistrellu’r Glust

Nid ydym yn cynnig y gwasanaeth hwn yng Nghanolfan Iechyd Tywyn ond gallwch drefnu apwyntiad yn un o'r clinigau preifat a nodir uchod.

 

Yr Ymarferydd Lles Teuluol 

Mae’r tîm Ymarferwyr Lles Teuluol yn rhan o ystod o wasanaethau iechyd meddwl a lles meddwl i blant a phobl ifanc o dan 18 oed, sy’n darparu cymorth a chyngor cynnar i bobl ifanc a/neu eu rhieni i helpu i fynd i’r afael ag anawsterau cyn iddynt ddatblygu i fod yn broblemau mwy. Gall yr Ymarferydd Lles Teuluol gynnig cymorth tymor byr a all fod ar ffurf cyngor a chyfeirio at wasanaethau eraill yn y gymuned, rhoi cymorth i gael mynediad at y gwasanaethau hyn os oes angen, a chefnogi hunangymorth i'ch grymuso i ddatrys eich anawsterau drosoch chi eich hun. Weithiau gall fod yn ddefnyddiol siarad â’r Ymarferydd lles Teuluol i ddeall y materion yn well a chytuno ar yr hyn a allai fod o’r defnydd mwyaf wrth symud ymlaen.

Os ydych chi'n unigolyn ifanc sy'n poeni am eich lles meddyliol, neu'n rhiant/gofalwr sy'n poeni am unigolyn ifanc, siaradwch â'ch Meddyg Teulu neu Nyrs y Practis. Byddant yn penderfynu pa gymorth a allai fod yn fwyaf defnyddiol. Efallai mai siarad â’r Ymarferydd Lles Teuluol (sy’n gweithio yn y feddygfa fel rhan o dîm y practis gofal sylfaenol) fyddai fwyaf defnyddiol neu efallai bod angen mwy o gymorth arbenigol arnoch a byddant yn gallu trafod yr opsiynau hyn gyda chi.

 

Rhwydwaith Cymunedau Ffermio

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Rhwydwaith Cymunedau Ffermio (FCN). Maen nhw’n gymuned wirfoddol sy’n cefnogi ffermwyr a’u teuluoedd. P'un a yw'r mater yn bersonol neu'n ymwneud â busnes, mae FCN yno i chi. Rydym yn cynnal llinell gymorth gyfrinachol, genedlaethol (03000111999) ac e-linell gymorth (help@fcn.org.uk) sydd ar agor bob dydd o'r flwyddyn rhwng 7am ac 11pm. Mae eu gwirfoddolwyr yn darparu cymorth bugeiliol ac ymarferol am ddim i unrhyw un sy'n ceisio cymorth.

 

Banc Bwyd De Gwynedd

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Banc Bwyd De Gwynedd.  Yma fe welwch fanylion am ein banciau lleol, sut i gael talebau a beth fyddwch chi’n ei dderbyn yn eich parsel bwyd. Gellir hefyd casglu parseli o siop yr Adfent ar ôl cysylltu â banc bwyd y Bermo.

 

Cyngor Gwynedd

Cliciwch yma i ymweld a gwefan Cyngor Gwynedd neu ffoniwch 01766 771000. Dewiswch o’r opsiynau isod:

  • Opsiwn 1 – Ar gyfer casglu gwastraff
  • Opsiwn 2 – Ar gyfer y Cofrestrydd
  • Opsiwn 3 – Ar gyfer treth y Cyngor a budd-daliadau
 

Batris Cymhorthion Clyw

Gall Ysbyty Tywyn ddarparu batris cymhorthion clyw. Ffoniwch 03000 850 026 am fanylion.

 

Tîm Iechyd Meddwl

Ffoniwch 03000852429 i gysylltu â'n tîm iechyd meddwl lleol.

 

Mind

Cliciwch yma i gyrchu Mind Active Monitoring. Mae'r cwrs yn cynnig chwe wythnos o hunangymorth dan arweiniad ar gyfer gorbryder, iselder, hunan-barch, a mwy.

Er mwyn dechrau, siaradwch â’ch meddyg teulu, neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall, neu cofrestrwch yn uniongyrchol:

 

Hospis Tŷ'r Eos

Mae Hosbis Tŷ’r Eos yn cynnal Rhaglenni chwe wythnos Gweithredu Cadarnhaol bob mis i addysgu a chefnogi pobl i reoli eu pryderon eu hunain a gwella ansawdd eu bywyd. Cysylltwch â’r therapydd galwedigaethol Clare Williams ar 01978 316800 am fwy o wybodaeth.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Chwiliwch am anhwylder cyhyrysgerbydol, yna dewiswch ac agorwch y dudalen ARMA o'r canlyniadau chwilio.

 

Therapïau Siarad Parabl

Cliciwch yma i gael mynediad at Therapïau Siarad Parabl. Maent yn darparu ymyriadau therapiwtig tymor byr i unigolion sy'n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu ddigwyddiadau bywyd heriol a allai fod yn effeithio ar eu lles emosiynol

 

Treialu Ymyrraeth Rhianta i Atal Anhwylderau Affeithiol mewn Pobl Ifanc Risg Uchel

Mae Prifysgol Warwick yn cynnal y treial PIPA (Ymyriad Rhianta i Atal Anhwylderau Affeithiol mewn Ieuenctid Risg Uchel), sy’n archwilio effeithiolrwydd adnodd ar-lein i rieni/gofalwyr. Maen nhw'n gobeithio y bydd yr adnodd yn helpu i leihau iselder a phryder ymhlith pobl ifanc.

 

Y treial PRINCIPLE 

Cliciwch yma i ymuno â'r Treial PRINCIPLE. Mae Canolfan Iechyd Tywyn yn aelod o’r treial hwn sy’n ceisio dod o hyd i driniaethau risg isel i bobl hŷn â COVID. I fod yn gymwys mae angen i chi fod wedi profi symptomau COVID am lai na 15 diwrnod. Mae'r treial yn agored i bobl:

  • 65 oed a throsodd.
  • 18-64 oed ac yn profi diffyg anadl fel rhan o salwch COVID-19.
  • 18-64 oed gyda rhai cyflyrau iechyd isorweddol.
 

Darllen yn Well

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Darllen yn Well. Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi i ddeall a rheoli eich iechyd a lles drwy ddarllen defnyddiol.

Mae'r llyfrau i gyd wedi eu hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad bywyd o'r cyflyrau a'r pynciau dan sylw ynghyd a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Gall gweithiwr iechyd proffesiynol argymell rhywbeth i chi ei ddarllen, neu gallwch ymweld â'ch llyfrgell leol a dewis llyfr eich hun.

Mae pum rhestr lyfrau ar gael:

  • Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl
  • Darllen yn Well i bobl ifanc
  • Darllen yn Well i blant
  • Darllen yn Well ar gyfer dementia
  • Darllen yn Well ar gyfer cyflyrau hirdymor.
 

Gweithlu RCS 

Cliciwch yma i ymweld â gwefan RCS Workforce. Yn y cyfnod heriol hwn, mae RCS yn gweithio'n galed i gefnogi pobl yn y gweithle, gan ddod â phobl at ei gilydd mewn cymuned cymorth rithwir.

Maen nhw'n cynnig cefnogaeth un-i-un (dros y ffôn, Skype neu Whatsapp) i’ch cadw’n galonog. Ceir cwnsela neu therapïau siarad am ddim dros y ffôn

Syniadau ar gyfer gweithio gartref hapus ac iach. Gweithredoedd positif i gyflogwyr helpu i gadw'r gweithlu'n iach. Mae eu tîm bellach yn gweithio o’u cartrefi, ond mor angerddol a chadarnhaol ag erioed am wella bywydau. Ffoniwch 01745 336442 neu e-bostiwch hello@rcs-wales.co.uk

 

Y Samariaid 

Cliciwch yma i ymweld â gwefan y Samariaid neu ffoniwch 116 123 am ddim. Beth bynnag rydych chi'n ei brofi, bydd Samariaid yno gyda chi. Maen nhw yno i chi 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn

 

Achub Bywyd Cymru

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Achub Bywyd Cymru ac i ddysgu CPR. Mae Cyffwrdd â Bywyd Rhywun yn ymgyrch i annog pawb yng Nghymru i ddysgu sgiliau CPR fel eu bod yn hyderus ynghylch y camau y mae angen iddynt eu dilyn pan fydd person yn cael ataliad y galon.

 

SilverCloud

Cliciwch yma ar gyfer cwrs ar-lein SilverCloud sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer gorbryder, iselder, a llawer mwy, a hwnnw’n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gofrestru.

 

Tan Y Maen

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Prosiect Lles Tan y Maen yn Nhywyn. Mae Tan y Maen yn cynnig amgylchedd anffurfiol a chefnogol i helpu pobl sydd â phroblemau cyffredin yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles.

Cysylltwch â Joanna Houseman ar 07495 127245

 

MASTA

Cliciwch yma i ymweld â'r MASTA i ddod o hyd i glinig teithio lleol. Mae clinigau teithio preifat eraill ar gael a gall rhai meddygfeydd lleol gynnig clinig teithio yn lleol.

Nid ydym yn cynnal clinig teithio yng Nghanolfan Iechyd Tywyn ar hyn o bryd