Oriau Agor

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Oriau Gwaith y Feddygfa

  • Ffôn: 8.30am - 6.30pm
  • Oriau Gwaith y Fferyllfa: 8.00am - 6.30pm
  • Apwyntiadau ar gael: 8.30am - 6.00pm

Ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys y gellir eu trefnu ymlaen llawn, ffoniwch ar ôl 9.00am.

Ar gyfer apwyntiadau brys ar yr un diwrnod, ffoniwch am 8.00am

Rydym ni ar gau ar Sadyrnau a Suliau

 

Y Tu Allan i Oriau Arferol ac ar Benwythnosau

Y tu allan i oriau arferol y feddygfa, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth meddygol ar gyfer problemau Gofal Sylfaenol sy’n datblygu y Tu Allan i Oriau, a gyflawnir yn aml gan feddygon teulu lleol.

Mae’r system yn weithredol rhwng 18:30 a 08:00 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o ddydd Gwener 18:30 i 08:00 ddydd Llun a holl Ŵyl y Banc.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer sefyllfaoedd brys na all aros tan oriau arferol y feddygfa yn unig ac nid yw'n ddewis amgen yn lle system apwyntiadau'r feddygfa ei hun.  Gallwch chi gysylltu â rhif y GIG ar gyfer sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys, 111 

Mae'r gwasanaeth Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau yn gyswllt addas i unrhyw afiechyd fuasech yn cael cyngor neu driniaeth gan eich Meddyg Teulu fel arfer yn ystod yr wythnos gwaith

Ynghylch pryderon yn ymwneud ag iechyd meddwl, ffoniwch 111 dewis 2.

 

 Pan Fyddwn Ar Gau

 Cau Arfaethedig a Gwyliau Banc